Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | B-Unique Records, Polydor Records, Universal Music Group, Fiction Records, Drowned in Sound, Liberation Music, Caroline International, ATO Records |
Dod i'r brig | 2000 |
Dechrau/Sefydlu | 2000 |
Genre | pync-roc, roc indie, cerddoriaeth roc, pop pŵer, Britpop |
Yn cynnwys | Ricky Wilson, Andrew White, Nick Hodgson |
Gwefan | https://www.kaiserchiefs.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Kaiser Chiefs yn fand roc annibynnol o Leeds yn Lloegr. Ffurfiwyd y band ym 1997. Aelodau'r band yw'r prif leisydd Ricky Wilson, y gitarydd Andrew 'Whitey' White, Simon Rix ar y gitâr bâs, Nick 'Peanut' Baines ar yr allweddellau a'r drymiwr Nick Hodgson. Cafodd y band ei enwi ar ôl clwb pêl-droed Kaizer Chiefs o Dde Affrica, sef tîm a chwaraeodd Lucas Radebe, cyn-ammddiffynwr Leeds United drosto.
Rhyddhawyd albwm cyntaf y grŵp, Employment, yn 2005. Cafodd ei ysbrydoli yn bennaf gan gerddoriaeth 'Ton Newydd' a phync roc ar ddiwedd y 1970au, a chafodd yr albwm lwyddiant ryngwladol gyda gwerthiant o dros dri miliwn. Yn 2005, cyrhaeddodd yr albwm y rhestr fer ar gyfer Gwobr Mercury. Ar ail albwm y band, Yours Truly, Angry Mob, roedd y gân "Ruby", a gyrhaeddodd rif un yn siart senglau y Deyrnas Unedig.